Dyniaethau Llwybrau Mynediad
Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys unedau i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth mewn amrywiaeth o feysydd pwnc, gan gynnwys:
- Hanes
- Daearyddiaeth
- Astudiaethau Crefyddol
- Dyniaethau
- Ffrangeg
Gall canolfannau ddewis i adeiladu'r cymhwyster o amgylch un maes pwnc, e.e. hanes. Fel arall, mae'n bosibl i adeiladu cymhwyster o amrywiaeth o feysydd pwnc e.e. Daearyddiaeth, Dyniaethau ac Astudiaethau Crefyddol er mwyn i ddysgwyr gael profiad mwy cyffredinol.
Mae'r cymhwyster ar gael ar lefel Mynediad 2 a 3.
Deunyddiau Cwrs
Mae'r adnoddau i gyd i'w gweld ar y dudalen Dogfennau Cysylltiedig.
Gwefan Ddiogel CBAC
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw.
Tanysgrifiwch
Tanysgrifiwch i dderbyn newyddion pwysig a diweddariadau rheolaidd.
Dyddiadau Allweddol
Cofrestriadau 2018/2019
- Ionawr - rhaid cyflwyno'r cofrestriadau erbyn 21 Hydref 2018, yna gall canolfannau eu diwygio hyd at 11 Tachwedd 2018.
- Mehefin - rhaid cyflwyno'r cofrestriadau erbyn 21 Chwefror 2019, yna gall canolfannau eu diwygio hyd at 18 Mawrth 2019.
- Nid yw'n bosibl cyflwyno cofrestriadau hwyr ar ôl y dyddiadau hyn.
Gwaith i'w Safoni
Rhaid i samplau o waith i'w safoni fod â CBAC erbyn 12 Rhagfyr 2018 ar gyfer ceisiadau Ionawr a Mai 3, 2019 ar gyfer ceisiadau Mai.
Cyrsiau DPP ar-lein
Dyma ddolenni i ddogfennau, gyda troslais gan Phil Star Swyddog Pwnc Dyniaethau, i cynhorthwyo gyda addysgu y cwrs Dyniaethau Llwybrau Mynediad:
Mae fersiynnau Cymraeg o ddogfennau'r cyrsiau ar gael yma.
Ymunwch â'r Tîm: Byddwch yn Arholwr neu Safonwr
Ar hyn o bryd, rydym yn recriwtio arholwyr a safonwyr ar gyfer cymwysterau TGAU, UG/Safon Uwch a/neu gymwysteru Lefel 1 a Lefel 2 cyfres haf y flwyddyn nesaf. Os oes gennych chi o leiaf dwy flynedd o brofiad addysgu ac eisiau ymgeisio am y swyddi hyn, yna dylech greu cyfrif er mwyn cwblhau'r broses ymgeisio ar-lein.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag arholi, yn cynnwys swyddi gwag a manteision arholi, ewch i'n tudalen penodedigion.
Cysylltwch â Ni
Dolenni Defnyddiol
Manylion Cyswllt Ychwanegol
Adroddiadau Uwch Arholwyr
Mae adroddiadau Uwch Arholwyr 2018 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.