Pam dewis astudio'r Project Estynedig CBAC?
Ein cenhadaeth yw cynnig cyngor a chefnogaeth barhaus i'r rheiny sy'n addysgu Project Estynedig CBAC mewn ysgolion a cholegau, gan gynorthwyo i sicrhau bod myfyrwyr yn cyflawni eu gorau. Rydym yn cynnig:
Mynediad diderfyn at adnoddau electronig ac adnoddau printAmrywiaeth eang o ddeunyddiau enghreifftiol drwy ein gwefan ddiogel
Cyrsiau hyfforddi DPP wyneb yn wyneb
Defnydd opsiynol o'r llwyfan e-gyflwyno ar-lein
Ymweliadau â chanolfannau newydd
Cyswllt uniongyrchol parhaus ag arbenigwyr pwnc drwy e-bost neu dros y ffôn
Swyddogion Cefnogi Rhanbarthol hawdd cysylltu â nhw
Cefnogaeth a chyngor i ganolfannau ynglŷn â chymeradwyo cynigion project a theitlau arfaethedig
"Teimlaf fod y Project Estynedig wedi bod yn hynod o fuddiol oherwydd mae wedi cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer y brifysgol. Rwyf hefyd yn ei hoffi oherwydd mae'r gefnogaeth gan CBAC yn arbennig a rydym yn cael ymateb yn syth i unrhyw ymholiadau. Athro o Plymouth
"Yn bersonol, rydw i wrth fy modd yn addysgu'r Project Estynedig oherwydd mae'n addas ar gyfer dysgwyr academaidd iawn a hefyd ar gyfer dysgwyr nad ydynt efallai yn rhagori mewn sefyllfaoedd arholiad ond sy'n gweithio'n gyson drwy gydol y flwyddyn." – Darlithydd Coleg o Orllewin Cymru
"Dywedodd prif athrawon bod y cymhwyster yn dod yn fwy poblogaidd ac y gallai fod o gymorth i gryfhau ceisiadau prifysgol ymgeiswyr... Mae ffigurau a gafodd eu cyhoeddi gan y Cyd-Gyngor Cymwysterau (CGC) yn dangos bod 33,245 o ymgeiswyr wedi dilyn y cymhwyster yr haf diwethaf. Roedd 15,958 wedi dilyn y cwrs yn 2010 felly mae cynnydd o 108% wedi bod ers hynny." Newyddion BBC (8 Awst 2015)
Ewch i dudalen Cymhwyster Project Estynedig am ragor o wybodaeth.
Tystebau Cwrs DPP
"Cyflwyniad ardderchod i'r gymhwyster, bydd yn help mawr i newid o fwrdd arall. Braf darganfod y lefel o gymorth mae CBAC yn ei gynnig…"
Dirprwy Bennaeth Ôl-16,
Dyfnaint
"Cymorth o safon uchel gan dîm cyfeillgar. Mwy dymunol na byrddau arholi maint 'Tesco'.
Calonogol iawn."
Coleg Chweched Dosbarth,
Swydd Gaerloyw
"… Mor hawdd mynd atynt a chyfeillgar… dull synhwyrol, wirioneddol ofalgar ac yn dangos empathi go iawn gyda dysgwyr ac athrawon fel ei gilydd"
Academi Chweched Dosbarth,
Llundain
"Mae cymorth ac adnoddau CBAC wastad yn ardderchog – doedd y digwyddiad hwn ddim yn eithriad."
Ysgol Uwchradd,
Caerfaddon
"ystyried o ddifrif ar gyfer y flwyddyn nesaf, fel cwrs ychwanegol ar gyfer fy myfyrwyr uwch-gyflawni."
Coleg Chweched Dosbarth,
Norfork
"Canllawiau rhagorol ar asesu gyda deunydd enghreifftiol."
Academi Chweched Dosbarth,
Plymouth
Astudiaethau Achos
Astudiaethau Achos ar Ddarparu ac Amserlennu'r CPE