Q Menu
< Treforest Conference Facilities

Project Estynedig Lefel 3

'Mae’r CPE, sy’n werth hanner lefel A, yn gynyddol boblogaidd gyda phrifysgolion gorau.  Mae Bryste, Manceinion, Southamption a Leeds ymhlith nifer cynyddol sy’n barod i ostwng eu gofynion gradd Safon Uwch os yw ymgeiswyr yn cael A neu A* am eu CPE.’- The Times, 3 Ionawr 2019

Mae ein Cymhwyster Project Estynedig Lefel 3 ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, canolfannau Lluoedd Prydain Dramor a chanolfannau Prydain Dramor fel cymhwyster annibynnolCymhwyster un uned yw'r Project Estynedig sy'n cael ei asesu'n fewnol a'i safoni'n allanol.  Mae gan ganolfannau yr opsiwn o ddefnyddio'r llwyfan e-gyflwyno ar-lein, sy'n rhad ac am ddim ar gyfer y Project Estynedig.

Gall y Prosiect Estynedig ei ddatblygu o un neu ragor o raglenni astudio y dysgwr neu o bwnc o ddiddordeb personol.  Gall fod yn seiliedig ar amrywiaeth o fformatau a chyd-destunau, e.e. traethawd hir, astudiaeth maes, arteffact neu berfformiad.  Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses gan oruchwyliwr a rhaglen addysgu a dysgu.

Mae'r cymhwyster yn cynnig opsiynau amserlennu hyblyg i ganolfannau. Bydd gan ddysgwyr fwy o ddewis dros eu hastudiaethau nag erioed a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn addysg uwch ac ym myd gwaith.  Mae natur hyblyg y cymhwyster hwn hefyd yn annog gweithgareddau trawsgwricwlaidd gan roi cyfleoedd i ryngweithio rhwng cyfadrannau ac adrannau o fewn y canolfannau. 

Bydd y cymhwyster Project Estynedig ar gael ar gyfer cyfres mis Mehefin yn unig ar gyfer pob canolfan.


E-Gyflwyno

Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad am y broses ewch i'r dudalen we e-gyflwyno.


Pam dewis astudio'r Project Estynedig gyda CBAC?


Dogfennau Allweddol

Gweler Dogfennau Perthnasol hefyd ar gyfer adnoddau pellach.


Cysylltwch â Ni

Mae ein harbenigwyr pwnc yma i'ch helpu chi wrth gyflwyno ein cymwysterau.

Rheolwr y Cymhwyster Project Estynedig

Glenda Kinsey
029 2026 5348
Ebostio Glenda

Manylion Cyswllt Ychwanegol

Cofrestriadau

029 2026 5193
entries@wjec.co.uk

DPP

029 2026 5024
dpp@cbac.co.uk

 
Newydd
pdf document logo
Adroddiad Prif Safonwr Project Estynedig 2018
Lawrlwytho

Adroddiadau Uwch Arholwyr

Mae adroddiadau Uwch Arholwyr 2018 yn rhoi adborth ar gyfer y cymwysterau hen a newydd o'r gyfres arholiadau'r hwn. Mae'r adroddiadau yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol a sylwadau ar y gwaith a gynhyrchwyd ar gyfer y gyfres hon, gall hefyd gynorthwyo athrawon wrth iddynt baratoi eu myfyrwyr ar gyfer y gyfres nesaf o arholiadau.

Tanysgrifiwch i dderbyn diweddariadau pwysig yn ymwneud â'r cymhwyster hwn.