Pa Sgiliau sy'n Gwneud Arholwr Rhagorol?

Os ydych chi'n meddwl am ddatblygu eich gyrfa addysgu a dod yn arholwr, efallai y byddwch chi'n meddwl tybed pa sgiliau penodol y bydd eu hangen arnoch. Yn fyr, arholwr rhagorol yw rhywun sy'n cymhwyso meini prawf asesu yn gywir ac yn deg, tra'n defnyddio gwybodaeth pwnc gref a barn broffesiynol.  

Yn y blog hwn, rydym yn edrych ychydig yn ddyfnach ar ba sgiliau y gallwch eu disgwyl gan arholwr rhagorol. Rydym hefyd yn ateb rhai o'r cwestiynau mwyaf cyffredin, megis 'pa hyfforddiant mae arholwyr yn ei gael cyn iddynt ddechrau?' a 'pa gymwysterau sydd eu hangen arnoch i ddod yn arholwr?’. 

Yn CBAC, rydym yn gweithio gydag athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol sy'n angerddol am gefnogi asesu teg a chywir. 
 

Y 5 sgìl allweddol sy'n gwneud arholwr rhagorol 

Er bod pob arholwr yn dod â'u profiad eu hunain, mae'r arholwyr gorau yn rhannu 5 sgìl craidd sy'n sylfaenol i lwyddiant yn y rôl. 

  1. Gwybodaeth gref am y pwnc 

Un o sgiliau a rhinweddau pwysicaf arholwr gwych yw dealltwriaeth drylwyr o'u pwnc a'r cymhwyster maen nhw'n ei farcio. Mae hyn yn eu galluogi i adnabod ymatebion dilys a chymhwyso'r cynllun marcio yn gywir ac yn deg, hyd yn oed pan fydd ymgeiswyr yn mynegi syniadau mewn gwahanol ffyrdd.  

Mae gwybodaeth gref am y pwnc yn darparu sylfaen ar gyfer marcio hyderus, cyson.  

  1. Sylw i fanylion 

Gall pob marc wneud gwahaniaeth i ganlyniad terfynol dysgwr, felly mae sylw gofalus i fanylion yn hanfodol. Bydd arholwyr rhagorol yn darllen pob ymateb yn drylwyr, gan sicrhau nad oes unrhyw farciau yn cael eu colli neu eu rhoi'n anghywir. 

  1. Cysondeb 

Sgìl hanfodol arall i'w gael fel arholwr yw cysondeb. Mae pob ymgeisydd sy'n cwblhau arholiad yn haeddu i'w waith gael ei farcio i'r un safon, waeth pryd neu ble mae'n cael ei asesu. Fel y gwnaethom gyffwrdd arno'n flaenorol, bydd arholwyr rhagorol yn gallu dilyn y cynllun marcio'n agos a chymhwyso'r un egwyddorion at bob sgript, yn deg. 

  1. Barn Broffesiynol 

Nid yw pob ateb yn ffitio'n daclus i mewn i enghraifft nodweddiadol. Mae arholwyr rhagorol yn defnyddio barn broffesiynol i ddehongli ymatebion ymgeiswyr tra'n aros o fewn y canllawiau a ddarperir gan y cynllun marcio. 

  1. Rheoli amser 

Mae marcio papurau yn gofyn am gynllunio gofalus a'r gallu i weithio i derfynnau amser heb gyfaddawdu ar ansawdd.  

 

A ellir datblygu sgiliau arholwyr? 

Yn sicr! Trwy brofiad, hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus, gall unrhyw un sydd â'r sylfaen gywir ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddod yn arholwr effeithiol. 

Mae llawer o weithwyr addysg proffesiynol eisoes yn defnyddio'r sgiliau hyn yn eu rolau o ddydd i ddydd. Mae asesu gwaith dysgwyr, darparu adborth, cymhwyso meini prawf asesu a llunio barn broffesiynol cytbwys i gyd yn helpu i feithrin sylfaen gadarn ar gyfer arholi. Mae dod yn arholwr yn caniatáu i'r sgiliau hyn gael eu mireinio ymhellach mewn cyd-destun asesu gwahanol. 

Mae CBAC hefyd yn darparu hyfforddiant a safoni cynhwysfawr cyn i farcio ddechrau, gan helpu arholwyr i ddeall y cynllun marcio a'i gymhwyso'n gyson. 

 

Cwestiynau Cyffredin Arholwyr 

A yw arholwyr yn derbyn hyfforddiant cyn i'r marcio ddechrau? 

Ydyn – nid yw marcwyr arholiadau yn dechrau marcio papurau arholiad heb gwblhau hyfforddiant strwythuredig yn gyntaf, a gynlluniwyd i sicrhau bod y marcio yn cyd-fynd â safonau y cytunwyd arnynt. 

Pa gymwysterau sydd eu hangen i ddod yn arholwr? 

Fel arfer, bydd angen cymwysterau academaidd a phrofiad addas arnoch yn y pwnc rydych chi am ei arholi. 

A yw profiad addysgu yn bwysig i arholwyr? 

Mae profiad addysgu yn werthfawr iawn i arholwyr, gan ei fod yn darparu dealltwriaeth gref o gynnwys y pwnc a sut mae dysgwyr yn dangos eu gwybodaeth a'u sgiliau.  

Sut mae arholwyr yn gwneud yn siŵr bod marcio yn deg? 

Mae Tegwch yn rhan greiddiol o'r broses arholi. Cyn i farcio ddechrau, mae arholwyr yn cwblhau hyfforddiant a safoni i sicrhau eu bod yn deall y cynllun marcio ac yn gallu ei gymhwyso'n gyson. Trwy gydol y cyfnod marcio, mae arholwyr yn dilyn canllawiau marcio manwl ac yn derbyn cefnogaeth barhaus gan Arweinwyr Tîm. Mae prosesau sicrhau ansawdd hefyd yn cael eu cynnal i gynnal cywirdeb a chysondeb ar gyfer yr holl arholwyr. 

A all profiad arholi wella addysgu? 

Y newyddion gwych yw – mae'n wir, gall profiad arholi wella addysgu! Mae llawer o athrawon yn canfod bod profiad arholi yn cael effaith gadarnhaol ar ymarfer yn yr ystafell ddosbarth. Trwy ennill dealltwriaeth ddyfnach o gynlluniau marcio a sut mae marciau'n cael eu rhoi, gall arholwyr baratoi dysgwyr yn well ar gyfer asesiadau a'u helpu i ddangos eu gwybodaeth yn fwy effeithiol. 

 

Hyfforddiant i arholwyr gyda CBAC 

Yn CBAC, mae hyfforddiant i arholwyr yn cael ei arwain gan uwch arholwyr ac arbenigwyr pwnc sydd â gwybodaeth fanwl o'r cymhwyster, yr amcanion asesu, y cynllun marcio a'r arferion arholi gorau. 

Cyn i unrhyw farcio byw ddigwydd, rhaid i bob marciwr CBAC gwblhau'r hyfforddiant gofynnol. Mae hyn yn sicrhau bod pob marciwr yn cymhwyso'r cynllun marcio yn gyson, waeth beth fo'u cefndir neu brofiad marcio blaenorol. 

Dim ond ar ôl iddynt ddangos bod eu penderfyniadau marcio yn bodloni safon ofynnol Eduqas y cymeradwyir marcwyr i ddechrau marcio. 

I wneud cais i fod yn arholwr gyda CBAC, cwblhewch eich cais drwy'r system Penodedigion.  

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn ag arholi gyda ni, mae croeso i chi gysylltu â ni ar 029 2026 5457 neu penodedigion@cbac.co.uk.